Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw; Rhufeiniaid 3:23
Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Rhufeiniaid 6:23
Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich hunain: rhodd Duy ydyw: Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb. Effesiaid 2:8-9
A'r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynnai gymaint a chodi ei olygon tua'r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur. S. Luc 18:13
Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i'r byd i ddamnio'r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef. S. Ioan 3:16-17
Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, ond un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyda'r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn. I Corinthiaid 10:13
Canys y mae'n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth griad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Rhufeiniaid 8:38-39
Canys Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un sy'n credu. Rhufeiniaid 10:4
(Canys y mae efe yn dywedyd, Mewn amser cymeradwy y'th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y'th gynorthwyais: wele, yn awr yr amser cymeradwy; wele, yn awr ddydd yr iachawdwriaeth.) II Corinthiaid 6:2
Hwythau, wedi clywed hyn, a ddwysbigwyd yn eu calon, ac a ddywedasant wrth Pedr, a'r apostolion eraill, Ha wr frodyr, beth a wnawn ni? A Phedr a ddywedodd wrythynt, Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist, er maddeuant pechodau; a chwi a dderbyniwch ddawn yr Ysbryd Glân. Yr Actau 2:37-38
A gwisgo'r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd. Effesiaid 4:24
Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un: Rhufeiniaid 3:10
Am hynny, megis trwy un dyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint â phechu o bawb: Rhufeiniaid 5:12
Canys Crist, pan oeddem ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol. Rhufeiniaid 5:6
Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom; oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni. Rhufeiniaid 5:8
Ac a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ôl ysbryd sancteiddiad, trwy'r atgyfodiad oddi wrth y meirw: Rhufeiniaid 1:4
Gan wybod nad yw Crist, yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach; nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach. Rhufeiniaid 6:9
Mai os cyffesi â'th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi. Rhufeiniaid 10:9
Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd. Rhufeiniaid 10:13
Canys y mae'n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth griad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Rhufeiniaid 8:38-39