Welsh Scripture

Os dywedwn nad oes nyom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a'r gwirionedd nid yw ynom. Cyflog pechod yw marwolaeth. Gosodir ni oll gerbron gorseddfainc Crist. Canys y mae yn ysgrifenedig: Byw wyf fi, medd yr Arglwydd, pob glin a blyga i mi, a phob tafod a gyffesa i Dduw'. Felly gan hynny pob un ohonom drosto'i hun a rydd gyfrif i Dduw. Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol; a'r hwn sydd heb gredu i'r Mab, ni wel fywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef. Digofaint Duw a ddatguddiwyd o'r nef yn erbyn pob anuuwioldeb ac anghyfiawnder dynion. Ni chaiff dyn ei gyfiawnhau trwy weithredoedd y ddeddf, ond trwy ffydd yn Iesu Grist. Canys os o'r ddeddf y mae cyfiawnder, yna bu Crist farw yn ofer. Prawf Duw o'r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid. Dywedodd Iesu: Myfi yw'r ffordd... nid yw neb yn dyfod at y Tad ond trwof fi. Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall; canys nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig. Trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich hunain, rhodd Duw ydyw; nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb. Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei uniganedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i'r byd i ddamnio'r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef. Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau. Pan amlygwyd daioni Duw, ein Gwaredwr, a'i gariad tuag at ddynion, fe'n hachubodd ni, nid ar sail unrhyw weithredoedd o gyfiawnder a wnaethom ni, ond o'i drugaredd ei hun. Crist hefyd unwaith a ddioddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw. Rhodd Duw yw bywyd tragwyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Dywedodd Iesu: Y sawl sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu'r hwn am hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol. Yng Nghrist y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed, sef maddeuant pechodau. Y mae Iesu Grist yn aros yn dragywydd... am hynny efe a ddichon achub hyd yr eithaf y rhai sydd yn dyfod at Dduw trwyddo ef, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy. Os yw dyn yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd: yr hen bethau a aethant heibio, wele gwnaethpwyd pob peth yn newydd. Ef sydd a'r gallu ganddo i'ch cadw rhag syrthio, a'ch gosod yn ddi-fai a gorfoleddus gerbron ei ogoniant. Duw sydd yr awron yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhau. Edifarhewch, ynteu, a throwch at Dduw, er mwyn dileu eich pechodau. Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, ac fe gei dy achub. Dywedodd Iesu: Na fydd anghredadun, ond credadun... bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant. Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol. Os cyffesi Iesu yn Arglwydd a'th enau, ac os credi yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub.

free web site hit counter